Hyfforddi Yn Yr Ysgol [Dyletswydd CPA (PPA)]

 

Yn ystod y tymor yr ydym yn cynnig gwersi Addysg Gorfforol trefnus i ysgolion gynradd yn ateb dyletswydd amser CPA. Mae’r gwersi yn cael eu dysgu gan athrawon hyfforddedig sydd yn eu gosod mewn perthynas â’r cwricwlwm, gan arwain at ddull cost-effeithiol o sicrhau fod athrawon (Cyfnod Allweddol 1 a 2) yn treulio’r amser cywir y tu allan i’r dosbarth. Wrth gadw at y cwricwlwm cenedlaethol bydd Actif 24/7 yn cyflawni ei egwyddorion sylfaenol o ‘ddatblygu potensial chwaraeon’.

 

 

●   Bydd pob athro yn derbyn adroddiadau cynnydd ac asesiad ar ddiwedd cyfnod hyfforddi.

 

●   Bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif Actif 24/7 gyda phob cam o gynnydd ym mhob camp gan hefyd dderbyn cyngor bwyta’n iach yn ystod sesiwn.

 

 

Mae’r math yma o hyfforddi wedi ei brofi i godi safon timau ysgol. Wrth hyfforddi mewn ysgolion, gall Actif 24/7 ddysgu un neu amryw o chwaraeon yn dibynnu ar ofynion yr ysgol.

Sylweddola Actif 24/7 nad ydyw’n hawdd cydbwyso amser CPA gyda gofynion amserlen ysgol prysur. Gydag adroddiadau llywodraethol yn nodi fod pryder o or-dewdra, bydd Actif 24/7 yn eich cynorthwyo i gyrraedd y targedau sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Gyda hyn mewn golwg mae pecyn CPA Actif 24/7 wedi ei gynllunio i gadw pob disgybl yn ymarfer wrth ateb gofynion ysgolion cynradd ar yr un pryd.

 

Pan fo dau athro neu fwy angen cyd-weithio gyda chynlluniau gwersi, gallwn gynnig mwy o hyfforddwyr. Gan roi ystyriaeth i gyllid yr ysgol, gallwn ddylunio sesiynau i ateb eich gofynion amser, cyfleusterau ac anghenion pob ysgol gyda phob hyfforddwr wedi eu gwirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol, yn cynnwys offer – popeth am bris resymol.

 

Os oes gofyn bydd Actif 24/7 yn ddigon barod i roi dangosiad yn yr ysgol.

 

Er mwyn bwcio ac am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Actif 24/7 gydag ebost i sionedwards@actif247.co.uk neu ffonio 07717676796.

  

'Yn creu Cymru heini, iach a chynhwysiol.'

 

English     -     Blog Cymraeg     -     English Blog