Tystebau

 

“Yr oedd y Gwersyll Rygbi Iaith Gymraeg yng Nghlwb Rygbi’r Rhyl yn llwyddiant mawr. Yn ogystal â bod wedi ei drefnu i’r safon uchaf, gyda blaenoriaeth i les y plant, yr oedd yn llawer o hwyl a sbri i’r genethod a’r bechgyn a oedd yn cymryd rhan. Yr ydwyf yn argymell y gwersyll rygbi’n gryf i unrhyw riant/gwarcheidwad sy’n ystyried gyrru eu plentyn iddo."


Will Morecombe
CADEIRYDD CLWB RYGBI Y RHYL A’R FRO

 

 

"Camp Rygbi Cymraeg Clwb Rygbi Y Rhyl 2007: 

Diwrnod peni..gamp !! yn wir oedd y camp rygbi yn nghlwb y Rhyl.   Gyda threfnu hynod o lwyddiannus a gofalus a’r pwyslais ar gynnwys pawb ym mhob gweithgaredd. Cafodd y plant gyfle i feithrin a datblygu sgiliau gwaith tîm a rygbi, ynghyd a gwneud ffrindiau newydd a mwynhau.  Mae Sion i’w ganmol am ei ymdrech gyda’r iaith Gymraeg, fe allodd ddylanwadu ar ei gyd hyfforddwyr a’r plant, roedd naws Gymreig hyfryd i’r diwrnod. Y Gamp gorau heb os, diwrnodau llawn, Rygbi, a Hwyl drwy gyfrwng y Gymraeg...peidiwch a methu’r nesa’."

 

Sian Parry

BWRDD YR IAITH

 

Tystebau Staff

 

"Mae gweithio i cwmni ACtif 24/7 yn golygu fy mod wedi cael y cyfle i ddysgu plant o bob oedran ag teimlaf bod gweithio i'r cwmni wedi fy nghalluogi i rhoi rhywbeth yn ol i fy ardal lleol"

Gerallt Lyall, Aelod Staff Actif 24/7, Dinbych

 

"Cyfle i fi ddatblygu a gweld plant yn gwella ei sgilliau chwaraeon o fewn Sir Ddinbych yn enwedig drwy defnyddio'r iaith gymraeg"

Siôn Jones, Aeold Staff Actif 24/7, Prestatyn

 

'Fel hyfforddwr o Actif 24/7, mae'r cwmni wedi llwyddo i datblygu fy sgilliau fel hyfforddwr i lefelau pellach a wedi cryfhau fy diddordeb i fod yn hyfforddwr llawn amser'

Rhys Edwards, Aelod Staff Actif 24/7, Prestatyn

Partneriaid

Mae Actif 24/7 wedi cyflawni gwaith neu yn gweithio gyda wahannol mudiadau o'r byd addysg, cymuned, ieuenctid yn lleol ac yn cenedlaethol. Mae'r mudiadau hyn yn cynnwys;

Mudiadau & Clybiau Chwaraeon

> Menterau Iaith Cymru
> URDD                                                                          > Bwrdd yr Iaith
> Cymunedau Gyntaf
> Cyngor Dref Prestatyn
> Scowtiaid Clwyd
> Clwb Rygbi Y Rhyl
> Clwb Rygbi Caernarfon
> Clwb Rygbi Corwen
> Clwb Rygbi Y Bala
> Canolfan Hamdden Prestatyn
> Canolfan Hamdden Llanrwst       
                         

             

English     -     Blog Cymraeg     -     English Blog