![]() |
|||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|||||
|
|
|
|
|||
|
Gwasanaethau Actif 24/7
Yr ydym ni, Actif 24/7, yn cynnig hyfforddiant chwaraeon i blant 4 i 14 oed oddi mewn a thu allan i’r ysgol. Yr ydym yn cynnig athrawon i hyfforddi ym meysydd pêl-droed, rygbi (cyffwrdd a chorfforol), pêl-rwyd, pêl-fasged, Campau’r Ddraig ac athletau.
> Ysgol - Yn ystod y tymor academaidd yr ydym yn cynnig gwersi addysg gorfforol trefnus mewn ysgolion gynradd adeg dyletswydd CPA.
> Ysgol -Yr ydym yn cynnig clybiau ar ôl ysgol ar gyfer amryw o chwaraeon sy’n ateb gofynion yr ysgol.
> Amrediad o wersylloedd chwaraeon adeg gwyliau.
> Ymgynghori ffitrwydd i bob oed ar gyfer chwaraeon.
> Partïon Pen-blwydd – Yr ydym yn cynnig detholiad o becynnau pen-blwydd. |
Y Cwmni
Cwmni ymgynghorol hyfforddi a ffitrwydd plant yw Actif 24/7 sydd wedi ei leoli yng ngogledd Cymru. Yr ydym yn gwmni gyda’r nod o ddatblygu potensial chwaraeon ym mhob unigolyn.
O ganlyniad i hyn yr ydym yn ceisio ein gorau i gynnig cyfleoedd i blant ac oedolion i gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau corfforol, sydd wedi eu cyflwyno a’u dysgu’n broffesiynol.
Gyda’r nod hwn yr ydym yn ceisio cynorthwyo pawb yng Nghymru i gyrraedd targedau Dringo’n Uwch y Cynulliad Cenedlaethol, sydd yn ceisio creu ‘Cymru heini, iach a chynhwysiol’.
Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gyrraedd targedau Dringo’n Uwch gan gynyddu gweithgareddau oedolion a phlant a sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn mwy nag un awr o ymarfer y dydd.
Nod arall Actif 24/7 yw cynnig ein holl hyfforddiant yn ddwyieithog. |
||||
|
''Yn Datblygu Potensial Corfforol' |
|||||
| English - Blog Cymraeg - English Blog | |||||