![]() |
|||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|||||
|
|
|
|
|||
|
Egwyddorion Actif 24/7
Bob tro wrth hyfforddi, mae Actif 24/7 yn gwneud ei orau i gadw at yr egwyddorion dilynol:
Cyflawni prif nod Actif 24/7 sef ‘datblygu potensial chwaraeon’ ym mhob plentyn, o’r rhai lleiaf brwdfrydig i’r rhai sydd methu cadw’n llonydd! Mae’r potensial yn bodoli ym MHAWB.
Creu agwedd o hwyl yn ein sesiynau. Dim ond trwy wneud ymarfer corfforol yn hwyl y gall plant gyrraedd eu potensial.
Creu, cadw a datblygu dealltwriaeth pob plentyn o’r pwysigrwydd o ddilyn cynllun bwyta’n iach a chadw’n heini. Mae hyn yn enwedig yn ystod cyfnod pryder o or-dewdra yn y DU yn ôl y llywodraeth.
Cynorthwyo pob plentyn i gyrraedd safonau cenedlaethol ymarfer corfforol, sydd wedi eu gosod yn nogfen Dringo’n Uwch gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hyn yn cynnwys 60 munud o ymarfer corfforol yn ddyddiol.
Wrth hyfforddi bydd pob athro wedi ei ysgogi i’r dim ac yn barod i gyflawni egwyddorion Actif 24/7.
Blaenoriaeth i blant. Wrth hyfforddi bydd diogelwch a lles pob plentyn o’r flaenoriaeth uchaf i bob athro. |
Diogelwch Plant
Diogelwch plant yw blaenoriaeth gyntaf Actif 24/7. I gyflawni hyn, mae gan bob athro:
> Wiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB)
> Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
> Cymwysterau chwaraeon addas
Yn ogystal â hyn, mae pob plentyn wedi ei yswirio tra’u bod yn cael eu dysgu gan athro Actif 24/7.
Gydag ystyriaeth o gyflogaeth mae pob aelod o staff yn cael ei ddewis yn ofalus gyda phwyslai ar gymwysterau, profiad, brwdfrydedd a’r gallu i ysgogi plant ac oedolion. Bydd pob athro Actif 24/7 yn cynnal gweithgareddau yn ôl awgrymiadau y Corff Llywodraethu.
Wrth hyfforddi o fewn ysgolion, bydd Actif 24/7 yn cadw cysylltiad union gyda phob ysgol i sicrhau fod y gofynion yn cael eu hateb.
Cysylltwch ag Actif 24/7 os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch diogelwch plant, cymwysterau penodol neu weithgareddau perthnasol. |
||||
| English - Blog Cymraeg - English Blog | |||||